Anrhydedd y Great Taste

Gwenyn Môn yn cipio anrhydedd Great Taste Awards 2024 am ein mêl blodau gwyllt yr haf o Ynys Mon.

Mae modd archebu lle ar gyrsiau â phrofiadau cadw gwenyn a gynhelir yn 2025


Gwobr Great Taste

Gwenyn Môn yn cipio  anrhydedd Great Taste Awards 2024 am eu Mêl Blodau Gwyllt yr Haf o Ynys Môn


Wedi’i feirniadu gan banel arbenigwyr y Guild of Fine Food, mae Gwenyn Môn wedi eu gwobrwyo ag anrhydedd 1-seren Y  Great Taste Awards yng nghynllun achredu bwyd a diod yr ymddiriedir ynddo fwyaf yn y byd.


Mae Gwenyn Môn wedi’i enwi ymhlith y cynhyrchwyr bwyd a diod gorau’n fyd-eang eleni, gan ennill anrhydedd hynod werthfawr 1-seren y Great Taste Awards am eu Mêl Blodau Gwyllt yr Haf o Ynys Môn.

 

Eleni, bu beirniadu dros 92 diwrnod yn Dorset a Llundain, gyda phanel o fwy na 500 o feirniaid yn profi'r cynnyrch. Cyflwynwyd cynhyrchion bwyd a diod o 115 o wahanol wledydd led-led y byd. Rhoddwyd 13,672 o gynhyrchion trwy'r broses feirniadu a disgrifiwyd Mêl Blodau Gwyllt  yr Haf a gynhyrchwyd gan Gwenyn Môn gan y beirniaid fel "very delicate in flavour, bright and appealing, with a real blast of the hedgerow in the aroma" yng ngwobrau bwyd a diod mwyaf chwenychedig y byd. 


Cafodd ei ddisgrifio gan y beirniaid fel "mêl y byddem yn ei fwynhau ar ein tost", roedd y mêl blodau gwyllt haf euraidd hwn o Ynys Môn yn boblogaidd iawn gyda beirniaid y Great Taste Awards. Mae'n fêl blodau gwyllt yr haf o ffynhonnell unigol, wedi'i gynhyrchu mewn sypiau bach o gynefinoedd gwyllt ar Ynys Môn. 


Mae Dafydd o Wenyn Môn wrth ei fodd ei fod wedi ennill gwobr Y Great Taste Awards am ein Mêl Blodau Gwyllt yr Haf o Ynys Môn. "Rydym wedi breuddwydio am y foment hon ac rydym mor falch o fod yn ychwanegu bathodyn du ac aur anrhydedd y Great Taste Awards i'n jariau o Fêl Blodau Gwyllt yr Haf o Ynys Môn. Dechreuon ni ein siwrne o gadw gwenyn ar Ynys Môn gyda dau gwch gwenyn, gan bacio ein mêl ar fwrdd y gegin, felly mae bod lle rydyn ni heddiw yn gwireddu breuddwyd."


"Mae cael ein cydnabod gyda anrhydedd 1-seren y Great Taste Awards yn golygu cymaint i gynhyrchwyr annibynnol fel ni ein hunain, gan ei fod yn gwneud yr holl waith caled a'r penderfyniad yn werth chweil! Great Taste yw'r anrhydedd mwyaf cydnabyddedig am flas ac ansawdd yn y diwydiant bwyd a diod, felly mae'n foment enfawr i ni!" meddai Dawn.


     

Beth yw'r Gwobrau'r Great Taste?


Caiff ei gydnabod fel stamp o ragoriaeth gan fanwerthwyr ac unigolion sy'n gwerthfawrogi bwyd a diod o ansawdd da. Trefnir gwobrwyau'r Great Taste gan y Guild of Fine Food ac mae'n rhoi gwerth ar flas da anad dim arall. Caiff yr holl gynhyrchion eu barnu a'u blasu'n ddall: Caiff pob cynnyrch ei dynnu o'i becyn felly ni ellir ei adnabod, cyn iddo gael ei gyflwyno i baneli o feiriniad i'w feirniadu  drylwyr.   

     


      

Share by: