Croeso i Gwenyn Môn!
Yma yn Gwenyn Môn rydym yn angerddol am gadw gwenyn, cynaliadwyedd ac addysg. Rydym yn cynhyrchu mêl blodau gwyllt o Ynys Môn o'r ansawdd uchaf, gyda'r parch mwyaf at y cynnyrch, y gwenyn a'r amgylchedd. Mae ein mêl blodau gwyllt o Ynys Môn wedi ei wobrwyo ag anrhydedd y Great Taste Award.
Ni yw prif ddarparwr hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn yng Nghymru, yn seiliedig ar fodlonrwydd a niferoedd cwsmeriaid. Darllenwch ein hadolygiadau!
Nid oes angen i ni ganslo nac yn aildrefnu ein digwyddiadau, waeth beth fo'r tywydd gan fod gennym wenyn dof a cychod gwenyn dan gysgod.
Mae ganddom gyfoeth o brofiad fel athrawon a dros 30 mlynedd fel gwenynwyr. Mae nifer y cyfranogwyr ar ein profiadau a'n cyrsiau bob amser yn cael eu cadw i ddim mwy na phedwar i sicrhau eich bod yn cael sylw unigol ac yn gwneud cynnydd yn gyflym. Mae tocynnau anrheg
ar gyfer ein cyrsiau a'n profiadau ar gael.
Rydym yn ymwybodol iawn o effaith amgylcheddol a chymdeithasol Gwenyn Môn ac rydym eisoes yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Ar ben hynny, rydym wedi cynhyrchu cynllun gweithredu amgylcheddol a chymdeithasol i fesur ein heffaith ac i weithio tuag at gyrraedd allyriadau carbon sero-net, diogelu a chyfoethogi ein cynefinoedd a chael effeithiau cadarnhaol ar ein cymuned leol.
O dro i dro byddwn yn cyflwyno sgyrsiau a chyflwyniadau darluniadol addysgiadol a difyr a i gymdeithasau a grwpiau cymunedol a chynulleidfaoedd ar bob lefel.