Polisi canslo ac ad-dalu

Gwenyn Môn yn cipio anrhydedd Great Taste Awards 2024 am ein mêl blodau gwyllt yr haf o Ynys Mon.

Mae modd archebu lle ar gyrsiau â phrofiadau cadw gwenyn a gynhelir yn 2025


polisi canslo ac ad-dalu

Polisi canslo ac ad-dalu Gwenyn Môn



1. Daw archeb ar gyfer digwyddiad yn rhwymol pan telir blaendal na ellir ei ad-dalu neu os anfonir e-bost atoch gennym ni i gadarnhau trefniant ar gyfer digwyddiad a archebwyd gan ddefnyddio tocyn anrheg. bydd angen talu y balans yn llawn ar ddechrau digwyddiad.


2. Mae Gwenyn Môn yn cadw'r hawl i ganslo cwrs neu brofiad. Gwnawn ein gorau i gysylltu a rhoi gwybod i chi ymlaen llaw os caiff digwyddiad ei ganslo. Os byddwn yn canslo cwrs neu brofiad byddwch yn derbyn ad-daliad llawn trwy drosglwyddiad banc.


3. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled ariannol neu anghyfleustra a achosir wrth i ni ganslo cwrs neu brofiad.


4. Os ydych wedi archebu digwyddiad gyda thocyn anrheg neu drwy dalu blaendal, dylech ein hysbysu o’ch bwriad i ganslo drwy e-bost at dafydd@angleseybees.co.uk


5.  Nid yw blaendaliadau yn ad-daliadwy.


6. Os byddwch yn canslo digwyddiad ac yn ein hysbysu o hyn o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y digwyddiad, a chithau wedi talu'r balans, llawn, byddwn yn rhoi nodyn credyd i chi o'r un gwerth a'r balans, i'w ddefnyddio o fewn 12 mis. Nid yw blaendaliadau yn ad-daliadwy ac nid ydym yn rhoi ad-daliadau mewn arian parod neu drosglwyddiad banc.


7. Bydd nodyn credid a roddir mewn ymateb i ganslo digwyddiad yn ddi-rym os na chaiff ei ddefnyddio o fewn 12 mis i ddyddiad y digwyddiad gwreiddiol


8. Ni ellir ad-dalu blaendal na'r  balans os byddwch yn canslo digwyddiad yn rhannol neu'n llawn  14 diwrnod neu lai cyn y digwyddiad ac ni ellir eu hail-drefnu.


9. Bydd tocynnau  anrheg a ddefnyddiwyd i archebu digwyddiadau a ganslwyd 14 diwrnod neu lai cyn i'r digwyddiad yn dod yn ddi-rym.


10. Rydym yn cadw'r hawl i beidio â mynd â gwesteion i'r wenynfa yn ystod digwyddiad neu beidio ag agor ac archwilio cychod gwenyn yn y wenynfa gyda gwesteion pan fyddwn yn meddwl bod yr amodau'n  anaddas.


11. Rydym yn cadw'r hawl i beidio â chanslo profiad  ar sail tywydd anaddas ac i amrywio'r gweithgareddau a gynigir, gan gynnwys defnyddio cwch dan gysgod neu gwch gwenyn arsylwi â blaen gwydr.


10. Cadwn yr hawl i newid trefn gweithgareddau yn ystod digwyddiadau ar sail yr amodau.

Share by: