Profiadau cadw gwenyn
Mae ein profiadau cadw gwenyn wedi’u hanelu at unigolion, teuluoedd, ffrindiau a grwpiau a hoffai gael blas ar gadw gwenyn heb ymrwymo i wneud cwrs i ddechreuwyr.
Mae nifer y mynychwyr wedi'u cyfyngu i ddim mwy na 4-6 o unigolion fel eich bod chi'n cael y gorau o'ch profiad. Mae profiadau ar gael i grwpiau preifat mwy trwy drefniant.
Mae'r profiadau ar gael rhwng dechrau Ebrill a diwedd Awst. Mae
tocynnau anrheg ar gael ar gyfer profiadau.
Gweithgaredd 90 munud lle byddwch yn gwisgo siwt gwenynwr ac yn ymweld â'r wenynfa, agor cwch gwenyn ac archwilio'r gwenyn tu mewn. Mae hyn yn gwneud cyfle instagram ffantastig!
Gweithgaredd 90 munud lle byddwn yn eich arwain trwy brofiad blasu mêl. Dysgwch am y gwahaniaeth rhwng mêl archfarchnad a mêl crefftus, mêl solet a rhedegog ac chasgliad o fêl o bob man yn y byd!
Profiad hanner niwrnod "Cael Blas ar Gadw Gwenyn"
Profiad hanner niwrnod o gadw gwenyn yn cynnwys popeth yn y profiadau "Cwrdd â'r Gwenyn" a "Blasu'r Mêl" a mwy, gan gynnwys gwneud cannwyll cwyr gwenyn i fynd adref gyda chi.
Diwrnod llawn i roi cynnig arni cyn prynu; rhoi tic yn eich rhestr bwced! neu i fod yn wenynwr pan fyddai amgylchiadau yn eich atal.