Gwenyn Môn yn cipio anrhydedd Great Taste Awards 2024 am ein mêl blodau gwyllt yr haf o Ynys Mon.

Mae modd archebu lle ar gyrsiau â phrofiadau cadw gwenyn a gynhelir yn 2025


Cael Blas

Cael Blas ar Gadw Gwenyn

Mae'r digwyddiad blasu hanner diwrnod hwn yn addas i deuluoedd efo plant o bob oedran ac mae'n gwneud anrheg delfrydol ar gyfer pen-blwydd, y Nadolig, Sul y mamau neu Sul y tadau. (Tocyn anrheg ar gael.) Mae o hefyd yn addas  fel y cam cyntaf ar gyfer cyw-wenynwr ac i rai a ysbrydolwyd gan raglenni teledu yn ddiweddar neu a hoffai ddysgu mwy am fêl a chadw gwenyn.


Byddwch yn darganfod pam ein bod yn cadw gwenyn ac ychydig am gylch bywyd y gwenyn cyn eu gweld yn agos o dan ficroscop a dysgu am y trefniant mewn cwch gwenyn. Yna, byddwn yn gwisgo dillad amddiffynnol ac yn mynd allan i'r wenynfa lle cewch rywfaint o brofiad ymarferol o drin y gwenyn dan oruchwyliaeth. I gloi’r profiad byddwch yn cael blasu mêl  gan ddysgu ychydig am fêl a gynhyrchir yn lleol a gwneud cannwyll cwyr gwenyn wedi’i rolio. Os bydd y tywydd anaddas (neu ar gyfer plant ifanc o dan 9 oed) efallai y byddwn yn darparu cwch gwenyn dan do â ffenestri gwydr arno.


Gwiliwch fideo you tube o'r profiad hwn


  • Cost £60. Uchafswm o 4 person 
  • £40 y pen i blant 14 neu iau.
  • Rhaid i bob plentyn gael ei hebrwng gan oedolyn sy'n talu
  • Gallwn addasu'r profiad hwn ar gyfer plant o bob oedran
  • Grwpiau preifat mwy drwy drefniant
  • Gellir cynnig dyddiadau amgen i grwpiau o 2 neu fwy.
  • 10:00 - 13:00 neu 14:00 - 17:00
  • Tocyn anrheg ar gael ar gyfer y profiad yma


Dyddiadau ar gyfer 2025


Ebrill - 5, 6, 11, 12, 13, 18, 19, 20, 21, 22, 23

Mai - 3, 4, 14, 15, 24, 25, 26, 31

Mehefin - 1, 11, 12, 21, 22

Gorffennaf - 12, 13, 17, 18, 20, 27,

Awst - 3, 10, 13, 14, 15, 17, 21, 22, 24, 25, 31

Medi - 3, 4, 5, 7, 13, 14


Sut i archebu


  • Dewiswch ddyddiad addas.
  • Gwiriwch argaeledd trwy glicio ar y ddolen Ymholiad Argaeledd hwn.
  • Byddwn yn cadarnhau argaeledd neu'n awgrymu dyddiadau amgen drwy e-bost.
  • Mae angen blaendal na ellir ei ddychwelyd o £20 y pen i sicrhau lle ar gwrs.
  • Gellir talu drwy fancio ar-lein i gyfrif Starling Bank Rhif 48221226, cod didoli 608371, enw cyfrif Busnes Dafydd Jones.
  • Defnyddiwch eich enw fel cyfeirnod.
  • Fel arall, ffoniwch 07816 188573 i dalu gyda cherdyn.
  • Gellir talu'r balans o £40 y pen gyda cherdyn wrth gyrraedd.


In order to provide you with the best online experience this website uses cookies. By using our website, you agree to our use of cookies. More Info.
×
Share by: