Hyfforddiant

Gwenyn Môn yn cipio anrhydedd Great Taste Awards 2024 am ein mêl blodau gwyllt yr haf o Ynys Mon.

Mae modd archebu lle ar gyrsiau â phrofiadau cadw gwenyn a gynhelir yn 2025


Hyfforddiant

Manteisiwn ar dros 30 mlynedd o brofiad fel gwenynwyr a phrofiad addysgu o dros 50 mlynedd rhwng y ddau ohonom  i gynllunio a chyflwyno cyrsiau hyfforddi effeithiol. Dyna pam y dyfarnwyd Darparwr Hyfforddiant Cadw Gwenyn Gorau 2023 i ni.


Mae cadw gwenyn yn weithgaredd nad yw'n cael ei ddysgu'n llwyddiannus o lyfrau, gweminarau a'r rhyngrwyd yn unig. Mae llawer i'w ddysgu i wneud dechrau llwyddiannus i'r hyn a allai ddod yn weithgaredd boddhaus, gydol oes. Credwn yn gryf na ellir ennill gwybodaeth a sgiliau digonol ar gwrs undydd i ddechreuwyr neu gwrs lle mae 12 neu fwy o fyfyrwyr yn clystyru o amgylch yr un cwch gwenyn. Mae hanes ein cyn-fyfyrwyr yn profi eu bod, ar ôl cwblhau ein cwrs deuddydd dwys i ddechreuwyr, yn barod i brynu a rheoli eu gwenyn eu hunain yn llwyddiannus.


Cynhelir cyrsiau hyfforddi rhwng dechrau mis Ebrill a diwedd mis Awst ac maent yn cynnwys cymysgedd o dasgau ymarferol a theori gyda chyflwyniadau darluniadol yn yr ystafell ddosbarth, ymarfer senarios gyda cychod gwenyn gwag ac archwilio cychod gwenyn yn y wenfa hyfforddi bwrpasol gerllaw. Mae rhai o'r cychod gwenyn dan gysgod, felly mae cyrsiau'n mynd yn eu blaenau waeth beth fo'r tywydd. Dewiswch rhwng "Dwi am fod yn wenynwr!" sef cwrs deuddydd i ddechreuwyr neu gwrs gloywi undydd. Mae tocynnau anrheg ar gael ar gyfer ein holl gyrsiau.


Mae'n ymddangos bod llawer o wenynwyr yn derbyn bod heidio yn anochel. Yn anffodus, mae’n arwain at golled sylweddol o wenyn ac yn effeithio ar gynnyrch mêl a gall arwain at golli cytrefi’n llwyr. At hynny, gall yr angen i symud heidiau o adeiladau achosi trallod, anghyfleustra, gwaith strwythurol a chost. Ar ein cyrsiau rydym yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli heidiau ac yn rhannu gyda chi ein harferion rheoli effeithiol sydd, i bob pwrpas yn dileu'r achosion o heidio.

Cynhelir cyrsiau hyfforddi rhwng dechrau Ebrill a diwedd Awst ac maent yn cynnwys cymysgedd o dasgau ymarferol a theori gyda chyflwyniadau darluniadol yn yr ystafell ddosbarth, ymarfer senarios rheoli gyda chychod gwenyn gwag ac archwilio cychod gwenyn yn y wenynfa hyfforddi bwrpasol gerllaw. Mae rhai o'r cychod gwenyn dan do, felly mae cyrsiau'n mynd ymlaen waeth beth fo'r tywydd. Mae tocynnau anrheg ar gael ar gyfer ein holl gyrsiau hyfforddi.

Dewiswch rhwng un o’r canlynol:-

Share by: