Dwi am fod yn wenynwr!
Mae angen dau ddiwrnod llawn i ddysgu hanfodion cadw gwenyn. Gall y rhain fod yn ddyddiau olynol neu ar wahan. Caiff niferoedd eu cyfyngu i ddim mwy na phedwar i sicrhau sylw unigol a digonedd o gyfleoedd i holi cwestiynau myfyrio a gwneud cynnydd.
Cynhelir y diwrnodau hyfforddi o ddechrau Ebrill hyd at ddiwedd Awst a chynhelir cymysgedd o dasgau ymnarferol a theori yn ystod y ddau ddiwrnod. Yn ogystal â'n gwenynfa hyfforddi pwrpasol, mae rhai o'n chychod gwenyn o dan gysgod. O ganlyniad, gallwn barhau â'n hyfforddiant beth bynnag wna'r tywydd. Disgwyliwn i chi allu archwilio cwch ar ben eich hun (o dan oruchwyliaeth, wrth gwrs!) erbyn diwedd eich ail ddiwrnod o hyfforddiant.
Byddwn yn cynghori dechreuwyr i beidio â phrynu gwenyn cyn mynychu'r cwrs. Fodd bynnag, gallwn awgrymu ble y gallwch brynu gwenyn a'u harchebu o flaen llaw. Yn yr un modd, gallwn eich cynghori cyn prynu offer a siwt.
Dyddiadau cyrsiau dechreuwyr yn 2025
Ebrill - 5&6, 11&12, 19&20
Mai - 3&4, 14&15, 24&25
Mehefin - 31(Mai) &1(Mehefin ), 11&12, 21&22
Gorffennaf - 12&13, 17&18
Awst - 14&15, 24&25
Medi - 4&5, 13&14
Sut i archebu