Cwrdd â'r Gwenyn
Gweithgaredd fforddiadwy 90 munud lle byddwch yn gwisgo siwt gwenynwr, ymweld â'r wenynfa, agor cwch gwenyn ac archwilio'r gwenyn tu mewn. Mae hyn yn gwneud cyfle instagram ffantastig!
Yn ystod y profiad byddwch hefyd yn darganfod ychydig am gylch bywyd gwenyn mêl a’r cychod gwenyn y maent yn byw ynddynt a sut rydym yn cynaeafu’r mêl. Ac os hoffech chi, bydd cyfle i flasu a phrynu rhywfaint o’n mêl ni hefyd.
Dyddiadau ar gyfer 2025
Ebrill - 5, 6, 11, 12, 13, 18, 19, 20, 21, 22, 23
Mai - 3, 4, 14, 15, 24, 25, 26, 31
Mehefin - 1, 11, 12, 21, 22
Gorffennaf - 12, 13, 17, 18, 20, 27,
Awst - 3, 10, 13, 14, 15, 17, 21, 22, 24, 25, 31
Medi - 3, 4, 5, 7, 13, 14
Sut i archebu