Mel blodau gwyllt o Ynys Mon

Gwenyn Môn yn cipio anrhydedd Great Taste Awards 2024 am ein mêl blodau gwyllt yr haf o Ynys Mon.

Mae modd archebu lle ar gyrsiau â phrofiadau cadw gwenyn a gynhelir yn 2025


Prynu mêl

Rydym yn angerddol am ansawdd y mêl blodau gwyllt o Ynys Môn yr ydym yn ei gynhyrchu a'i werthu. Gallwch fod yn sicr ei fod bob amser yn ffres ac yn cael ei gynhyrchu gennym ni. Yn wahanol i lawer o gyflenwyr mêl eraill, nid ydym yn dosbarthu mêl gan wenynwyr eraill. Ar ben hynny, nid ydym yn cadw stoc o fêl o flynyddoedd blaenorol er mwyn ceisio llyfnhau'r cyflenwad. Rydym yn cynaeafu mêl perthi'r gwanwyn ym mis Mehefin a mêl blodau gwyllt yr haf ym mis Awst. Gallwn nodi ffynhonnell pob jar o fêl a'r blodau y mae'r gwenyn yn debygol o fod wedi bod yn chwilota arnynt. 


Mae ein mêl yn rhedegog i ddechrau a bydd yn naturiol yn dechrau crisialu a chaledu mewn tua 4-6 mis. Os yw'n well gennych chi fêl rhedegog, rhaid ei storio mewn lle cynnes, tra bydd storio yn yr oergell yn ei wneud yn galed yn fuan.

Gwobr Anrhydedd Great Taste


Cafodd Gwenyn Môn ei  enwi ymhlith y cynhyrchwyr bwyd a diod gorau yn fyd-eang yn 2024, gan ennill gwobr Anrhydedd Great Taste am ei Mêl Blodau Gwyllt yr Haf o Môn. Fe'i disgrifiwyd gan feirniaid fel "very delicate in flavour, bright and appealing, with a real blast of the hedgerow in the aroma"  yng ngwobrau bwyd a diod mwyaf clodwiw y byd. Roedden nhw'n ei alw'n “a honey we would enjoy on our toast".


Sicrwydd hylendid Bwyd

Er mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd â gofynion hylendid bwyd bob amser, rydym wedi cofrestru fel cynhyrchydd bwyd ac wedi cwblhau hyfforddiant lefel 2 mewn hylendid bwyd a diogelwch ar gyfer gweithgynhyrchu ac wedi mabwysiadu system rheoli diogelwch bwyd yn dilyn egwyddorion HACCP a TACCP.  Mae ganddom sgor hylendid bwyd o 5 (da iawn) ar ol archwiliad gan y cyngor, rhywbeth nad sydd gan y mwyafrif o wenynwyr.


Galw i brynu mêl neu brynu ar-lein

Rydym yn gwerthu ein Mêl o Ynys Môn mewn jariau chweonglog 8oz a 12oz deiniadol am £6.50 neu £8.50  Gallwch alw amdano neu ei archebu ar-lein i gyrraedd drwy'r post. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i drefnu amser addas i alw yn Gwenyn Môn i brynu ein mêl. Gallwn dderbyn taliadau efo cerdyn neu arian parod.


Ffafrau mêl o flodau gwyllt Ynys Môn


Ydych chi'n trefnu priodas ac mae ganddoch gysylltiad ag Ynys Môn? Does dim gwell na ffafrau mêl o flodau gwyllt Ynys Môn  i'w roi i'ch gwesteion.


Cysylltwch â ni am fanylion mewn da bryd gan nad ydym yn eu cadw mewn stoc. Rydym yn eu gwerthu am £3 yr un gyda isafswm archeb o 30 jar.


Maent hefyd yn addas i'w cynnwys mewn hamperi croeso ar gyfer y fasnach lletygarwch.




Mêl wedi'i ddanfon gan y Post Brenhinol

Gallwch archebu'ch mêl trwy lenwi'r ffurflen archebu ar waelod y dudalen hon a thalu trwy fancio ar-lein (gan ddefnyddio'r manylion ar waelod y dudalen) neu gyda cherdyn dros y ffôn. Yna byddwn yn ei anfon atoch gan ddefnyddio gwasanaeth y post brenhinol (Tracked 24 neu 48). Cofiwch ychwanegu'r swm cywir ar gyfer postio. Byddwn yn rhannu eich cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn efo'r Post Brenhinol at ddibenion dosbarthu a thracio a byddant yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd y parsel yn eich cyrraedd a gallwch newid y trefniadau os nad yw'n gyfleus. Felly, bydd angen e-bost a rhif ffôn y derbynnydd arnom os ydych yn prynu mêl ar gyfer rhywun arall e.e. fel anrheg. Sylwch nad ydym yn anfon mêl dramor ac ni allwn fod yn gyfrifol am yr amser y mae'n ei gymryd i'r Post Brenhinol ddanfon eich mêl.

Nifer o jariau Cost postio £ Gwasanaeth y post brenhinol
hyd at 4x jar 8oz 4.25 Parsel bach Tracked 24
5 i 10 jar 8oz £6.65 Parsel canolig Tracked 48
5 i 10 jar 8oz £7.69 Parsel canolig Tracked 24
hyd at 2 jar 12oz £4.25 Parsel bach Tracked 24
3-8 jar 12 oz 6.65 Parsel canolig Tracked 48
3-8 jar 12 oz 7.69 Parsel canolig Tracked 24

Diweddariad stoc

Mêl y gwanwyn 2024  - dim ar ol

Mêl yr haf 2024 - dim ar ol


Archebu mêl

Os gwelwch yn dda, talwch drwy fancio ar-lein, gyfrif Starling Business Bank, rhif cyfrif, 48221226; côd didoli 608371; Enw’r cyfrif busnes, Dafydd Jones.  Defnyddiwch eich enw fel gyfeirnod.  Neu, ffoniwch 07816 188573 er mwyn talu efo cerdyn.


Share by: