Gwenyn Môn yn cipio anrhydedd Great Taste Awards 2024 am ein mêl blodau gwyllt yr haf o Ynys Mon.
Mêl Haf 2024 ar werth rwan! Cofiwch gysylltu cyn galw amdano.
Rheoli llu o gychod mewn diwrnod
Rheoli llu o gychod mewn diwrnod!
Dewch gyda Dafydd am fore neu bnawn wrth iddo archwilio a rheoli hyd at ugain o gychod gwenyn yn y wenynfa.
Dyma gyfle prin i weld sut caiff nifer o gychod o wahanol fathau eu rheoli a dysgu am y broses o hel gwybodaeth, gwneud penderfyniadau a datrys problemau sy'n ynghlwm a rheolaeth tymhorol y cychod gwenyn a'r gwenynfeydd.
Mae hwn yn brofiad dysgu unigryw ac yn gyfle i ofyn cwestiynau yn y fan a'r lle wrth i bethau ddatblygu.
Uchafswm o 4 berson
Dechrau Ebrill - ddiwedd Awst
Yn cynnwys y defnydd o ddillad amddiffynnol.
Ffolder o nodiadau wedi'u hargraffu i gyd-fynd â chyrsiau dechreuwyr a gloywi a dolenni i ddarllen pellach ar gael ar gais.
Gwahoddiad i ymuno â grŵp whatsapp preifat i gael cefnogaeth barhaus.
Bydd yr hyn rydych chi'n ei brofi yn dibynnu'n llwyr ar yr adeg o'r flwyddyn a'r tasgau y mae'n rhaid eu gwneud ym mhob gwenynfa, ond bydd yn cynnwys llawer o'r canlynol: -
Cynllun a rheolaeth gwenynfa
Ehangu eich menter gwenyn
Rheolaeth y gwanwyn
Archwiliad arferol y cychod gwenyn
Ehangu'r nythfa
Adeiladu crwybr
Cylchdroi fframiau
Rheolaeth heidio rhagataliol
Rheolaeth heidio adweithiol
Gwneud cynnydd
Amnewid breninesau coll
Rheolaeth cnewyll paru
ychwanegu lloftydd mêl
Cynaeafu mêl
Rheoli lladrata
Trin yn erbyn faroa
Bwydo
Paratoi ar gyfer y gaeaf
Cost £60 y pen am hanner niwrnod
10:00-13:00 neu 13:30-16:30
Ffoniwch, anfonwch neges destun neu e-bostiwch i wirio'r dyddiadau sydd ar gael ar gyfer eich digwyddiad neu i brynu tocyn anrheg.