Bob blwyddyn byddwn yn agor ein gerddi i’r cyhoedd o dan nawdd y Cynllun Gerddi Agored Cenedlaethol. Mae'r holl arian a godir o ffioedd mynediad a lluniaeth yn cael ei roi i elusennau sy'n fuddiolwyr y Cynllun Gerddi Agored Cenedlaethol gan gynnwys ymhlith eraill -Macmillan Cancer Support; Marie Curie; Hospice UK; Carers Trust; Parkinson's UK. Rydym hefyd yn rhoi rhodd i'r elusen, Bees for development, sy'n hyrwyddo cadw gwenyn fel ffrwd incwm mewn gwledydd sy'n datblygu.
Yn 2025, rydym yn bwriadu gwneud pethau'n wahanol. Yn ystod mis Ebrill byddwn ar agor drwy gais i grwpiau o 6 neu fwy o unigolion ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, pan fydd rhagolygon y tywydd yn edrych yn addawol, byddwn yn cyhoeddi diwrnod gardd agored NGS a byr-rybudd, ond byddwn yn ceisio rhoi gymaint ogyhoeddusrwydd â phosibl iddo.
Ymhellach, ar 5-6 Gorffennaf, byddwn yn cynnal digwyddiad gardd agored i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a gynhelir ar Ynys Môn yn 2026.
Nid yw ein gardd yn un nodweddiadol sy'n seiliedig ar y forderi a lawntiau traddodiadol. Mae'r ffocws ar wenyn a pheillwyr, bywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae yma 7.5 erw o erddi bywyd gwyllt aeddfed gyda llyn godidog ac ynysoedd. Mae gwenyn mêl yn nodwedd bwysig gyda gwenynfa, mêl ar werth, cyflwyniadau cwrdd â’r gwenynwyr a thaith gerdded trwy goetir a blannwyd er budd y gwenyn efo chymorth yr elusen Coed Cadw.
Mae yna hefyd dir pori, gerddi ffurfiol bach, gwelyau wedi'u codi â llysiau, perllan a ffrwythau meddal. Mae’r ardd hon yn bleser i deuluoedd gyda chysgodle ger y llyn, byrddau gwybodaeth, helfa drysor yn y coetir a mannau addas ar gyfer picnic
Mae atyniadau arbennig yn cynnwys:-
Mae mynediad cadair olwyn ar gael i ardaloedd allweddol gyda llethrau graddol iawn, llwybrau glaswelltog wedi'u torri'n fyr neu lwybrau caled. Man lluniaeth hygyrch gydag arwyneb caled. Toiled anaddas ar gyfer mynediad cadair olwyn.