Mae gweithio fel athro bioleg am 20 mlynedd a gwyddonydd ymchwil cyn hynny, wedi meithrin angerdd ynof i am rannu fy mrwdfrydedd dros gadw gwenyn gyda chynulleidfaoedd ar bob lefel, gan gynnwys disgyblion ysgol a myfyrwyr coleg, grwpiau cymunedol a chymdeithasau cadw gwenyn.
Mae gen i nifer o gyflwyniadau darluniadol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd, o "Blwyddyn ym mywyd gwenynwr" wedi'i anelu at gynulleidfa leyg chwilfrydig, i "sut y gwnes adferiad ar ôl "y bwystfil o'r dwyrain" wedi'i anelu at wenynwyr profiadol. Rwy'n dod â gliniadur, taflunydd a sgrin i ddarlunio a diddanu, neu gallaf ddod â rhywfaint o offer a cwch arsylwi ar gyfer sesiwn anffurfiol mwy ymarferol.
Fel arall, gallwch drefnu i ymweld a ni. Mae ganddom stafell sy'n eistedd 20 yn gyfforddus. Cysylltwch â mi i drafod eich gofynion gan fy mod yn siŵr y gallaf gynhyrchu cyflwyniad pwrpasol i chi. Rwy'n anelu at adael fy nghynulleidfa wedi eu difyrru ac eisiau gwybod mwy....