Amdanaf i …...
Fy enw i yw Dafydd Jones a gyda fy ngwraig, Dawn, rwy'n gyfrifol am Wenyn Môn o'n tyddyn yn Llanddaniel, Ynys Môn. Yn ogystal â'r gwenyn mae ganddom ddiadell fechan o ddefaid pedigri Swydd Amwythig ac rydym rheoli coedlan gymysg ar gyfer creu tanwydd a chynefin. Rydym hefyd yn tyfu llysiau a ffrwythau i'r gegin ac yn cefnogi rhedeg busnes gwely a brecwast moethus.
Ar ôl astudio ecoleg, gwyddor pridd ac entomoleg ar gyfer fy ngradd anrhydedd ym Mhrifysgol Llundain, dechreuais fy ngyrfa a chefais fy noethuriaeth fel Gwyddonydd Ymchwil Amgylcheddol yn y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ger Aberystwyth. Am yr 20 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio fel athro bioleg.
Teimlwn yn angerddol am dranc gwenyn a bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, addysg wyddonol a chysylltu â natur.
Rydym wedi ehangu ein gwenynfeydd yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy ddethol a magu gwenyn digynwrf, cynhyrchiol ac iach.