Gwenyn Môn yn cipio anrhydedd Great Taste Awards 2024 am ein mêl blodau gwyllt yr haf o Ynys Mon.

Mêl   Haf 2024 ar werth rwan! Cofiwch gysylltu cyn galw amdano.






Gardd Agored

Byddwn yn agor ein gerddi i’r cyhoedd ar 21 Gorffennaf a 31 Awst 2023 rhwng 11am a 5pm


7.5 erw o erddi  bywyd gwyllt aeddfed gyda llyn godidog ac ynysoedd. Mae gwenyn mêl yn nodwedd bwysig gyda gwenynfa, mêl ar werth, cyflwyniadau cwrdd â’r gwenynwyr a thaith gerdded trwy goetir  a blannwyd er budd y gwenyn efo chymorth yr elusen Coed Cadw.

Mae yna hefyd dir pori, gerddi ffurfiol bach, gwelyau wedi'u codi â llysiau, perllan a ffrwythau meddal. Mae’r ardd hon yn bleser i deuluoedd gyda thŷ haf llawn hwyl, byrddau gwybodaeth, helfa drysor yn y coetir a mannau addas ar gyfer picnic. Bydd yr elw o’r lluniaeth a’r gwerthiant planhigion yn cael ei roi i’r elusen Bees for Development.


Mae atyniadau arbennig yn cynnwys:-

  • coetir  a blannwyd er budd y gwenyn mêl a bywyd gwyllt ym mis Chwefror 2019 gyda chefnogaeth Coed Cadw.
  • Gwenynfa a chanolfan Gwenyn Môn ar gyfer hyfforddiant a phrofiadau cadw gwenyn.
  • Mêl lleol ar werth.
  • Planhigion ar werth
  • Lluniaeth
  • Defaid o Swydd Amwythig sy'n gyfeillgar i goed.
  • Caniateir cŵn ar dennyn byr
  • Cartref Tec Roberts, swyddog deinameg hedfan cyntaf NASA.
  • Tal mynediad yn £5 i oedolion a phlant am ddim.


Mae mynediad cadair olwyn ar gael i ardaloedd allweddol gyda llethrau graddol iawn, llwybrau glaswelltog wedi'u torri'n fyr neu lwybrau caled. Man lluniaeth hygyrch gydag arwyneb caled. Toiled anaddas ar gyfer mynediad cadair olwyn.




Share by: